GORSAF BŴER DINORWIG
Pan gafodd ei chomisiynu’n llawn yn 1984, roedd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn cael ei hystyried yn un o brosiectau peirianyddol ac amgylcheddol mwyaf dychmygus y byd.
Heddiw, mae’r ffordd y mae Dinorwig yn gweithio a’r gallu i ymateb mor gyflym yn dal i gael eu cydnabod ledled y byd. Dinorwig yw’r cynllun mwyaf o’i fath yn Ewrop.
Yn Ninorwig mae 16km o dwnelau tanddaearol, yng nghrombil mynydd Elidir. I’w hadeiladu, roedd angen 1 miliwn tunnell fetrig o goncrit, 200,000 tunnell fetrig o sment a 4,500 tunnell fetrig o ddur.
Mae chwe uned gynhyrchu bwerus yr orsaf yn sefyll yn y ceudwll mwyaf i gael ei greu gan ddyn yn Ewrop. Gerllaw mae siambr y brif falf fewnlif ble mae’r peiriannau sy’n rheoli llif y dŵr trwy’r tyrbinau.
Mae pympiau/tyrbinau cildroadwy Dinorwig yn gallu cynhyrchu ar eu heithaf mewn llai nag 16 eiliad. Gan ddefnyddio trydan y tu allan i’r oriau brig, bydd y chwe uned yn cael eu troi’n bympiau i symud dŵr o’r gronfa ddŵr isaf, yn ôl i Farchlyn Mawr.
FFEITHIAU A FFIGURAU AM DDINORWIG
| Data Pwll Ymchwydd: | |
| Maint pwll ymchwydd | 80x40x14 metr o ddyfnder |
| Diamedr siafft ymchwydd | 30 metr |
| Dyfnder siafft ymchwydd | 65 metr |
| Generadur/Moduron: | |
| Math | Siafft fertigol, pôl amlwg, oeri ag aer |
| Nerth generadur | 330 MVA |
| Nerth modur | 312 MVA |
| Foltedd terfynnell | 18kV |
| Cyffröydd | Unionydd thyristor |
| Offer cychwyn | Amledd newidiol statig |
| Newidydd Generadur-Modur: | |
| Nifer | Chwech |
| Nerth yn fras | 340 MVA |
| Cymhareb foltedd | 18 kV/420 kV |
| Ceudyllau Tanddaearol: | |
| Pellter yr orsaf bŵer oddi mewn i’r mynydd | 750 metr |
| Dyfnder y neuadd dyrbinau dan lefel uchaf Llyn Peris | 71 metr |
| Neuadd y Peiriannau: | |
| Hyd | 180 metr |
| Lled | 23 metr |
| Uchder | 51 metr ar ei uchaf |
| Neuadd y Newidyddion: | |
| Hyd | 160 metr |
| Lled | 23 metr |
| Uchder | 17 metr |
| Hyd twnnel dargyfeirio | 2,208 metr |
| Lled | 6.5 metr |
| Uchder | 5.5 metr |
| Llif uchaf | 60 metr ciwbig/eiliad |
| Llif arferol | 1-8 metr ciwbig/eiliad |
| Cwymp | 1:1500 |
| Pwmp/Tyrbinau: | |
| Math | Francis Cildroadwy |
| Nifer | 6 |
| Gosodiad | Gwerthyd fertigol |
| Mewnbwn pŵer arferol i’r pwmp | 275 MW |
| Cyfnod pwmpio (cyfaint llawn) | 7 awr |
| Buanedd cydamseredig | 500 rpm |
| Uned lawn gyfartalog dros bob pen (cynhwysedd a gyhoeddwyd) | 288 MW Potensial cynhyrchu ar lwyth llawn |
| Allbwn | 5 awr |
| Gofynion pŵer yr Orsaf wrth gynhyrchu | 12 MW |
| Modd gweithredol wrth law | - |
| Wedi cydamseru ac yn troelli mewn aer Cyfradd godi llwyth mewn argyfwng o fod wrth law | 0 to 1,320 MW mewn 12 eiliad |
| Offer switsio Trawsyrru: | |
| Math | SF6 cladin metel |
| Gallu brecio | 35,000 MVA |
| Nerth cyfredol | 4,000 A |
| Foltedd | 420 kV |
| Cloddio: | |
| Y prif gloddio tanddaearol | 1 miliwn metr ciwbig (tua 3 miliwn tunnell fetrig) |
| Cyfanswm cloddio’r cynllun | 12 miliwn tunnell fetrig |
